Dosbarthiadau Meistr Siocled a Pâtisserie gyda chogydd llwyddiannus yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro
Dosbarthiadau Meistr Siocled a Pâtisserie gyda chogydd llwyddiannus yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro
Dewch, chwi bobl hoff o siocled a phwdinau – mae bwyty nodedig Coleg Caerdydd a’r Fro, ‘Y Dosbarth’, yn cynnig cyfle unigryw i chi dreulio diwrnod yn cael hyfforddiant gan un o gogyddion pâtisserie gorau’r DU.
Dyma anrheg Nadolig perffaith i’r rhai sy’n gwirioni ar fwyd, neu gyfle arbennig i chi fwynhau eich hun i’r eithaf. Mae’r dosbarthiadau meistr yn cynnwys cwrs chwe awr i’ch helpu chi i greu pwdin perffaith. Bydd hefyd yn cynnwys cinio ysgafn ym mwyty ‘Y Dosbarth’, ar do Campws Canol y Ddinas newydd gwerth £45m y Coleg gyda golygfeydd ar draws Caerdydd.
Mae’r dosbarthiadau meistr yn gyflwyniad i siocled a gwneud siocled, sut mae creu cacen siocled Sant Ffolant sy’n tynnu dŵr o’r dannedd, dosbarth meistr macaron a dosbarth ar bwdin plât mefus a siocled Valrhona – pwdin cwbl drawiadol ar gyfer cinio nos neu achlysur arbennig. Bydd y dosbarthiadau’n cael eu cynnal gan Massimo Bishop-Scotti, pennaeth gwasanaeth dylunio cacennau cyfoes llwyddiannus, Zucchero Pâtisserie.
Yn teimlo’n angerddol am y cynhwysion o’r safon uchaf, cyfuniadau blas soffistigedig a’r cyfoes a’r arloesol, mae Massimo wedi gweithio gyda chogyddion pum seren mewn bwytai seren Michelin a phum seren. Mae’r rhain yn cynnwys The Savoy a The Aubergine i Gordon Ramsay. Mae wedi creu ryseitiau arbennig ar gyfer Syr Elton John, Syr Michael Parkinson a llywodraeth Seland Newydd, yn ogystal â chyflenwi M&S a Harrods.
Os ydych chi eisiau cyfareddu eich gwesteion, rhoi anrheg i rywun arbennig neu ddim ond dysgu sut mae creu melysion siocled trawiadol, ewch i www.cavc.ac.uk/masterclasses
i archebu lle. Mae’r dosbarthiadau meistr yn gyfyngedig i 12 lle y dydd er mwyn sicrhau profiad personol, felly archebwch yn fuan i osgoi cael eich siomi.
23ain Ionawr 2016Cyflwyniad i Siocled, 10am-4pm
30ain Ionawr 2016Cacen Siocled Sant Ffolant, 10am-4pm
20fed ChwefrorDosbarth Meistr Macaron, 10am-4pm
5ed Mawrth 2016Pwdin Plât Siocled a Mafon Valrhona, 10am-4pm
Mae pob dosbarth meistr yn costio £120 y pen a byddant yn cael eu cynnal ym mwyty Ewropeaidd modern Y Dosbarth ac yn cynnwys cinio ysgafn. Ewch i www.cavc.ac.uk/masterclasses i archebu lle, ond brysiwch – mae’r llefydd yn brin!
Y Dosbarth
Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.
Cinio
Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)
Swper
Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)
Cadwch lle