Noson blasu gwin Bordeaux – Mai 20fed
Rydym wedi pario 5 gwin gyda 5 cwrs blasus o gegin Y Dosbarth.
Does dim angen llawer o gyflwyniad i Bordeaux yn ne orllewin Ffrainc (Darllenwch y manylion yn llawn) i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwin. Dyma un o ranbarthau gwin mwyaf cynhyrchiol y byd ac mae hefyd yn llwyddo i fod ymhlith yr enwocaf a’r gorau.
Mae mwyafrif gwinoedd Bordeaux yn winoedd coch sych, canolig sy’n gwneud y rhanbarth yn enwog. Mae’r gorau o’r rhain (a’r drutaf) yn dod o chateaux gwych Medoc, yn enwedig y rhai yn Pauillac a Margaux, ac o enwau’r “lan ar y dde”, Saint-Emilion a Pomerol. Ategir y cochion chwedlonol gan winoedd gwyn o ansawdd uchel, yn winoedd sych Pessac-Leognan a neithdar melys Sauternes.
Rydym wedi pario 5 gwin gyda 5 cwrs blasus o gegin Y Dosbarth. Gweler y bwydlen llawn am ragor o wybodaeth.
Y Dosbarth
Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.
Cinio
Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)
Swper
Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)
Cadwch lle