The Classroom

Y Principality yn ymuno â Choleg Caerdydd a’r Fro

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro a bwyty lleol sy’n cael ei redeg gan ddau gogydd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol MasterChef wedi dod at ei gilydd ar gyfer menter goginio unigryw er mwyn codi arian at elusen.

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro a bwyty lleol sy’n cael ei redeg gan ddau gogydd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol MasterChef wedi dod at ei gilydd ar gyfer menter goginio unigryw er mwyn codi arian at elusen.

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Coleg Caerdydd a’r Fro a Hokkei wedi dod at ei gilydd i gynnal Hokkei ym mwyty’r Coleg ar bumed llawr ei Gampws yng Nghanol y Ddinas. Bydd hon yn noson o hwyl Nadoligaidd a choginio Asiaidd arloesol er budd yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru, sef Elusen y Flwyddyn y Principality.

Gan ddefnyddio cynhwysion ffres, lleol, bydd myfyrwyr CCAF yn gwneud pryd tri chwrs arbennig i 70 o westeion gyda chymorth Larkin Cen (a gyrhaeddodd rownd derfynol MasterChef a chyd-sylfaenydd Hokkei) a’i dîm. Bydd holl elw’r digwyddiad yn mynd i Mind Cymru.

Dywedodd Steve Hughes, Cyfarwyddwr Cyllid Grŵp a Chadeirydd Busnes yn y Gymuned Cymru Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Drwy gydol y flwyddyn mae ein staff ni wedi bod yn cynnal digwyddiadau i gefnogi Mind Cymru a thrwy gydweithio gyda’r sefydliadau gwych yma yng Nghymru rydyn ni’n gobeithio y bydd hwn yn benllanw mawreddog i 2015 i’n helpu ni i godi mwy fyth o arian.”

Bydd yr holl arian a godir drwy’r digwyddiad yn cael ei gyfrannu i Mind Cymru, i gefnogi’r elusen sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’n elusen sy’n ymgyrchu dros wella gwasanaethau, creu mwy o ymwybyddiaeth a sicrhau bod yr un o bob pedwar ohonom sy’n cael problemau iechyd meddwl bob blwyddyn yn cael cefnogaeth a pharch.

Dywedodd Kay Martin, Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cyfle i weithio gyda’r Principality a Hokkei ar y digwyddiad unigryw yma er lles Mind Cymru. Bydd nid yn unig yn codi arian ar gyfer achos cymunedol gwerth chweil ond hefyd bydd yn brofiad rhagorol i’n dysgwyr ni i weithio gyda Larkin Cen.”

Dywedodd Larkin Cen o Hokkei: “Rydw i’n hoff iawn o goginio wrth gwrs ac mae hon yn ffordd wych o ysbrydoli pobl ifanc gyda’n coginio Asiaidd a chodi arian at achos rhagorol hefyd gobeithio. Rwy’n siŵr y bydd yn bryd bwyd Nadoligaidd i’w gofio gyda help y myfyrwyr.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Mind Cymru, Sara Moseley: “Ar ran pawb yn Mind Cymru fe hoffwn i ddiolch o galon i chi yn Hokkei ac yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am drefnu’r digwyddiad gwych yma ac i staff y Principality hefyd – mae eu hegni a’u hymrwymiad nhw wedi bod yn ardderchog ers iddyn nhw ein dewis ni fel elusen y flwyddyn. Mae’n grêt bod digwyddiadau arloesol a hwyliog fel hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod gan unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl yng Nghymru rywle i droi ato am gyngor a chefnogaeth.”

Bydd Hokkei yn yr Ystafell Ddosbarth yn cael ei gynnal nos Iau, Rhagfyr 3 o 7pm ymlaen yn y bwyty ar y pumed llawr ar Gampws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro ar Heol Dumballs, Caerdydd. Pris y tocynnau yw £40 ac mae’r noson yn gyfyngedig i 70 o bobl. I archebu tocyn ewch i https://hokkeiintheclassroom.eventbrite.co.uk .

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle