The Classroom

Roger Jones, Cogydd Seren Michelin, yn cynnig ymddangos yn Y Dosbarth i ddathlu 30ain Pen-blwydd The Lady Taverners

7fed o Ebrill

Mae ychydig o leoedd ar gael ar gyfer cinio arbennig gan Roger Jones, y Cogydd Seren Michelin. Bydd yn digwydd ar y 7fed o Ebrill i nodi 30ain pen-blwydd elusen The Lady Taverners, gyda £10 y pen yn mynd i’r elusen. Bydd y cinio’n cynnwys pryd 3 chwrs, ynghyd â hanner potel o win. Cliciwch yma am y fwydlen lawn.

 

Bydd y cinio’n cynnwys pryd 3 chwrs, ynghyd â hanner potel o win.
Gyda thros 40 mlynedd yn y busnes lletygarwch, mae Roger yn Gogydd Seren Michelin uchel ei barch. Gyda’i wraig Sue, mae’n berchen ar y bwyty hynod nodedig sef The Harrow yn Little Bedwyn, Wiltshire. Mae wedi bod yn meddu ar Seren Michelin ers 11 mlynedd. Mae Roger wedi bod ynghlwm mewn hyfforddi nifer o golegau ac ysgolion yn y DU gan gynnwys Westminster ac mae’n gweithio â nifer o elusennau yng Nghymru gan gynnwys Tŷ Hafan, Chef’s Night Out, NSPCC Cymru, Blwyddyn Dysteb Ryan Jones er budd Milwyr Cymreig a anafwyd yn Afghanistan a Scope. Perchir y bwyty yn yr un modd am ei restr o 1,000 cist o winoedd. Mae wedi derbyn nifer o Wobrau Cenedlaethol a Byd-eang am ei restr gwinoedd. Mae’r rhain yn cynnwys The AA Wine List of The Year, The Decanter Wine List of The Year, World of Wine; The World’s Best Wine List Top Three Star and Judges Award, The Wine Spectator Best of Award of Excellence.

 

I archebu e-bostiwch theclassroom@cavc.ac.uk neu ffoniwch 02920250377.

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle