The Classroom

digwyddiad arbennig: Pryd 7 cwrs gan Cogwydd Seren MICHELIN HYWEL JONES ar gyfer Ty Hafan – 25 o Fai

Mae yna rhai lefydd ar gael ar gyfer pryd arbennig gan Cogydd Seren Michelin Hywel Jones i godi arian ar gyfer elusen Ty Hafan.

Bydd y pryd y cynnwys 7 cwrs a gwin gyda phob cwrs. Gallwch weld y fwydlen yma

Dechreuodd Hywel ei yrfa gyda David Nichols yn The Royal Garden cyn symud i weithio fel Chef de Partie mewn dau sefydliad tair seren a 2 seren Michelin; Chez Nico at 90 a Marco Pierre White. Datblygodd ei sgiliau ymhellach fel Ail Gogydd iau yn Le Soufflé a chanddo seren Michelin. O’r fan honno aeth yn ei flaen i ennill ei seren Michelin gyntaf ym mwyty Foliage yng ngwesty’r Mandarin Oriental yn Hyde Park. Bu’n Brif Gogydd yn y fan honno am bum mlynedd, cyn ymuno â bwyty’r Pharmacy yn Notting Hill fel Cogydd Gweithredol. Yn 2004 daeth Hywel i weithio i Lucknam Park Hotel and Spa, ac enillodd seren Michelin yn 2006.
Ar ôl ennill cystadleuaeth Cogydd Gwesty’r Flwyddyn yng Ngwobrau Hotel Catey yn 2007, mae Hywel wedi creu bwydlenni ardderchog ym mwyty The Park a chanddo seren Michelin, ac yn fwy diweddar yn The Brasserie, lleoliad sy’n cynnig profiad bwyta cyfoes.

Archebwch nawr

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle