The Classroom

Cinio Elusennol Balchder Cymru er budd Llamau – Dydd Iau 8 Tachwedd

Yn cynnwys derbyniad gyda prosecco a chanapés wedi’i ddilyn gan fwydlen 5 cwrs moethus gyda gwin, wedi’i chreu a’i gweini gan y cogyddion sêr Michelin o Gymru Hywel Jones, James Sommerin, Stephen Terry a Richard Davies.

Ymunwch â ni ar nos Iau 8 Tachwedd ar gyfer Cinio Balchder Cymru er budd yr elusen ddigartrefedd, Llamau.

Yn cynnwys derbyniad gyda prosecco a chanapés wedi’i ddilyn gan fwydlen 5 cwrs moethus gyda gwin, wedi’i chreu a’i gweini gan y cogyddion sêr Michelin o Gymru Hywel Jones, James Sommerin, Stephen Terry a Richard Davies.

Dyma gyfle rhagorol i fwynhau danteithion coginiol rhai o gogyddion gorau Cymru wrth iddynt gydweithio ar y fwydlen Balchder Cymru arbennig hon i godi arian hanfodol i’r elusen Llamau.  Byddwch yn gallu gwylio’r cogyddion wrth eu gwaith yng nghegin oriel Y Dosbarth a byddant hefyd yn trafod yr ysbrydoliaeth wrth wraidd eu seigiau.

Bydd y noson yn gorffen gydag ocsiwn elusennol er budd Llamau lle bydd cyfle i chi wneud cynnig am lu o eitemau cyffrous!  Cadwch lygad ar yr hashnod #CinioBalchderCymru ar y cyfryngau cymdeithasol i gael cipolwg o’r eitemau a fydd yn mynd o dan y morthwyl!

Y Fwydlen

Detholiad o ganapés y cogyddion
Gyda Prosecco Vispo Allegro

oOo

Rotolo di zucca
wedi’i baratoi gan Stephen Terry o Fwyty’r Hardwick, y Fenni
gyda Gwin Chardonnay Cloudy Bay 2015, Seland Newydd

oOo

Lleden fannog Cernywaidd , ham Caerfyrddin, cennin tawdd, jus gras cnau cyll a theim lemon
Wedi’i baratoi gan Hywel Jones o Restaurant Hywel Jones by Lucknam Park ger Caerfaddon
gyda Gwin Rhosliw Whispering Angel Côte de Provence 2017, Ffrainc

oOo

Cig oen Cymru, aubergine sbeislyd, artisiog a shibwns
Wedi’i baratoi gan Richard Davies o Westy Calcot Manor, Tetbury
gyda Gwin Shiraz “Black and Blue”  Tomfoolery 2015, Dyffryn Barossa, De Awstralia

oOo

Sorbed “Hen Ffasiwn” whisgi Penderyn
Wedi’i baratoi gan Cindy Challoner, Y Dosbarth

oOo

Fflapjac Sauternes gellyg, sinamon, cnau cyll a mêl
Wedi’i pharatoi gan James Sommerin o Fwyty James Sommerin, Penarth
gyda  Arèle Vino Santo Trentino 2000, yr Eidal

oOo

£99 y pen
Dros 18 oed yn unig
Bwydlen lysieuol ar gael ar gais

Telerau:

Mae’n rhaid talu am bob lle yn llawn wrth archebu.
Ni roddir ad-daliadau ar archebion ac ni ellir eu trosglwyddo.
Mae’r seddi’n cael eu dyrannu’n awtomatig a bydd yn rhaid i grwpiau llai rannu byrddau.

 

Cwrdd â’r Cogyddion

 

James Sommerin
Bwyty James Sommerin, Penarth

Ar ôl gyrfa yn gweithio mewn sefydliadau enwog ar draws y DU, dychwelodd James i Gymru, a phan oedd yn brif gogydd yn y bwyty ‘The Crown at Whitebrook’ enillodd ei seren Michelin gyntaf, a’i chadw am dros 5 mlynedd nes i’r sefydliad gau ei ddrysau. Yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, mae James bellach yn Gogydd/Perchennog Bwyty James Sommerin ym Mhenarth ac mae ef a’i dîm wedi mynd ymlaen i ennill nifer o wobrau – seren Michelin yn 2016, Bwyty’r Flwyddyn yr AA – Cymru 2016 -2017, 3 rhoséd gan yr AA, Gwobr Bwyty’r flwyddyn Cymru 2016 yng Ngwobrau Bwyd Cymru a Rhif 34 yn y Good Food Guide ar gyfer 2017. Gallwch ddarllen mwy am James yma.

Hywel Jones
Bwyty Hywel Jones yng Ngwesty a Sba Lucknam Park, ger Caerfaddon

Dechreuodd Hywel ei yrfa gyda David Nichols yn The Royal Garden cyn mynd ymlaen i weithio fel Chef de Partie mewn dau sefydliad 3-seren Michelin – Chez Nico  at 90 a Marco Pierre White. Yna gwellodd ei sgiliau ymhellach fel Sous Chef iau yn Le Soufflé, bwyty sydd â seren Michelin.  Yn dilyn hynny, enillodd ei seren Michelin gyntaf ym mwyty Foliage yng ngwesty’r Mandarin Oriental Hyde Park, lle bu’n Brif Gogydd am bum mlynedd cyn ymuno â Bwyty Pharmacy yn Notting Hill fel Cogydd Gweithredol.  Yn 2004, ymunodd Hywel â Gwesty a Sba Lucknam Park ac yn 2006 enillodd Seren Michelin.  Enillodd Hywel wobr Cogydd Gwesty’r Flwyddyn yng Ngwobrau Hotel Cateys 2007.  Mae wedi creu bwydlenni campus ym mwyty The Park sydd â Seren Michelin ac yn fwy diweddar fel rhan o’r profiad bwyta cyfoes a steilus sy’n cael ei gynnig yn The Brasserie.

Richard Davies
Gwesty Calcot Manor, Tetbury

Dechreuodd gyrfa Richard pan oedd yn bymtheg oed, cyn iddo ennill profiad wrth weithio i gogyddion megis Gordon Ramsay yn ei fwyty tair seren Michelin a John Campbell yn The Vineyard yn Stockcross, cyn iddo ennill seren Michelin ei hun yng ngwesty’r Manor House yn Wiltshire.

Ymunodd Richard â Gwesty Calcot Manor o Westy’r Celtic Manor yn Ne Cymru, lle lansiodd a arweiniodd fwyty moethus y gwesty, Epicure. Cyn iddo ymuno ag Epicure, denodd Richard selogion ffyddlon fel Cogydd Gweithredol yn The Manor House yn Castle Combe ger Caerfaddon, lle enillodd seren Michelin yn 2009 a’i chadw am weddill ei gyfnod yno, hyd at ddechrau 2016.

Stephen Terry
Bwyty The Hardwick, Y Fenni

Mae taith Stephen i The Hardwick yn cynnwys gweithio gyda Marco Pierre White yn ei fwyty cyntaf, Harvey, lle bu Marco yn fentor i Stephen, yna aeth ymlaen i La-Gavroche bwyty tair seren Michelin yn eiddo i Michel Roux Jr. Daeth ei gyflwyniad i goginio Ffrengig clasurol yn rhan o sylfeini athroniaeth goginio Stephen.

Yn ddiweddarach symudodd Stephen ymlaen i weithio ochr yn ochr â Nick Nairn fel Sous Chef yn The Breaval Old Mill cyn dychwelyd i Lundain i agor The Canteen yn Harbwr Chelsea i Marco Pierre White a Michael Caine lle enillodd ei seren Michelin gyntaf, yn 25 oed. Yna aeth Stephen ymlaen i ymestyn ei yrfa yn Ffrainc, Awstralia, Gogledd America a’r Deyrnas Unedig cyn ymgymryd â menter The Hardwick. Darllenwch fwy yma.

Cindy Challoner
Y Dosbarth, Caerdydd

Mae gan Cindy fwy na 10 mlynedd o brofiad o weithio fel Cogydd. Ochr yn ochr â chwblhau sawl cymhwyster arlwyo proffesiynol yn llwyddiannus, dechreuodd ei gyrfa yn ei thref enedigol, Aberaeron, yn gweithio mewn sawl bwyty a gwesty, gan fireinio ei chrefft. Drwy gydol ei gyrfa, mae Cindy wedi gweithio mewn sawl bwyty proffil uchel ledled Cymru, gan gynnwys treulio dwy flynedd fel Chef de Partie yn The Parc Hotel a bwyty llwyddiannus Bully’s yng Nghaerdydd, lle bu’n gweithio fel Cogydd Sous. Mae Cindy yn teimlo’n angerddol am fwyd ac ansawdd, gan geisio safonau rhagorol ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys mentora myfyrwyr coginio yn y gegin wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau o dan ei goruchwyliaeth. Mae’n siarad Cymraeg ac yn cyflwyno arddangosfeydd coginio dwyieithog yn rheolaidd mewn digwyddiadau ledled y rhanbarth.

Llamau; Rhoi terfyn ar ddigartrefedd, newid dyfodol pobl.

Yn Llamau, rydym yn credu na ddylai unrhyw unigolyn ifanc neu fenyw sy’n agored i niwed fyth orfod profi digartrefedd. Mae’n 2018, ond i filoedd o’r bobl ifanc a’r menywod mwyaf bregus yng Nghymru, mae digartrefedd yn realiti dychrynllyd.

Y llynedd, bu i ni gefnogi mwy o bobl nag erioed o’r blaen, ac rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwasanaethau i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn gallu trechu. Ein cenhadaeth yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd ond ni allwn wneud hynny heb eich cymorth chi.

 

I bwcio, ffoniwch Y Dosbarth ar 02920 250377 neu ebost theclassroom@cavc.ac.uk

 

Gyda diolch i’n noddwyr:

 

 

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle