The Classroom

Cookery Courses

Yn Y Dosbarth rydym yn teimlo’n angerddol am ddatblygu talentau coginio.

Mae’r Ysgol Goginio sydd yma’n gyfle i chi ymuno â ni am ddiwrnod a dysgu oddi wrth y goreuon – gan ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol neu ddim ond er pleser i chi eich hun ac i wneud argraff ar deulu a ffrindiau.

Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr cyffrous ac unigryw, a chyrsiau byr, yn Y Dosbarth a chewch ddysgu oddi wrth un o’n tîm ni o arbenigwyr neu un o’r cogyddion proffesiynol sy’n ymweld.

Mae’r dyddiau hyn yn brofiad gwych a gallant fod yn anrheg berffaith hefyd. O brynu diwrnod, cewch un o’n talebau profiad arbennig i ffrind [neu i chi] yn ogystal â thaleb gostyngiad o 10% ar gyfer cinio neu swper yn y bwyty, i’w ddefnyddio ar unrhyw adeg.

Nid oes yna gyrsiau coginio i’r cyhoedd yn rhedeg ar hyn o bryd, ond rydym yn gobeithio lansio rhaglen yn fuan.  Os hoffech glywed am gyrsiau sydd ar fin lansio cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio’r ffurflen isod.

    Available Courses

  • Dosbarth Meistr Coginio Eidalaidd

    Book Now

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle