The Classroom

Mwynhewch olygfeydd ar draws y Brifddinas

Am Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty Ewropeaidd modern ac unigryw gyda golygfeydd panoramig ar draws y brifddinas.

Rydym yn angerddol am ansawdd bwyd ac am wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid – gan sicrhau eich bod eisiau dod yn ôl yma eto. Mae ein bwydlenni’n newid gyda’r tymhorau – gan sicrhau cynhwysion o safon uchel gyda ffocws ar gynnyrch Cymreig rhanbarthol os yw hynny’n bosib. Paratoir pob pryd yn ffres – gan gynnwys y bara, sy’n cael ei bobi yn ein becws ar y safle bob dydd. Mae ein lleoliad yn drawiadol tu hwnt – ystafell fwyty wydr o’r llawr i’r nenfwd ar lawr uchaf Campws nodedig gwerth £45m Coleg Caerdydd a’r Fro yng Nghanol y Ddinas. Mae’n cynnig golygfeydd panoramig ar draws y brifddinas, o Fae Caerdydd i ganol y ddinas. Un elfen ganolog o bopeth rydym yn ei wneud yw ein gweledigaeth a’n hangerdd dros ddatblygu talent y dyfodol ar gyfer y diwydiant arlwyo a lletygarwch. Mae gan ein tîm o weithwyr proffesiynol y diwydiant gyfoeth o brofiad o fwytai sydd wedi derbyn Sêr Michelin a sawl Rhuban AA. Mae’r tîm yma o arbenigwyr yn arwain ein bwyty o ddydd i ddydd, gyda’r staff yn perffeithio eu sgiliau a’u profiad er mwyn dechrau ar eu gyrfaoedd yn y proffesiwn – a phob un yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ac mae’n gweithio – gyda’n cyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen i weithio mewn ceginau a lleoliadau proffesiynol o’r safon uchaf ledled y rhanbarth, y DU a thu hwnt. Hefyd rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â rhwydwaith o gogyddion gwadd uchel eu proffil sy’n rhannu ein hangerdd dros ddatblygu talent y dyfodol. Mae’r cogyddion hyn yn cynnwys James Sommerin a Larkin Cen, sy’n dod yma i gynnal dosbarthiadau meistr misol, a chogyddion gwadd sy’n cymryd yr awenau ac yn sicrhau amserlen gyffrous o ddigwyddiadau ar gyfer ein cwsmeriaid yn Y Dosbarth.

Nodwch os gwelwch yn dda: Mae myfyrwyr Alwyo a Lletygarwch yn gweithio yn y bwyty trwy’r flwyddyn heblaw am a gwyliau haf lle mae staff professiynol yn unig yn gweithio.

Anrhydeddau a Gwobrau

Mae Y Dosbarth wedi cael nifer o anrhydeddau, yn cydnabod ei ansawdd a’i wasanaeth fel un o’r bwytai mwyaf blaenllaw yng Nghaerdydd, ac un o’r bwytai coleg gorau yn y wlad. Mae’r gwobrau yn cynnwys:

Gwobr Rhoséd AA (Canmoliaeth Uchel)

Gwobr Lletygarwch Pobl yn Gyntaf

Canolfan Ragoriaeth Patisserie a Danteithion – Gwobrau Bwyd a Diod

Cyrraedd rownd derfynol bwyty Coleg AA y flwyddyn 2023/24

          

    Y Tîm

  • Thomas Bentkowski

    Rheolwr Cyffredinol

    Mae gan Thomas fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac mae’n cynnig cyfoeth o arbenigedd a phroffesiynoldeb i’r bwyty. Ar ôl ennill gradd mewn Rheoli Lletygarwch yn ei wlad enedigol, Gwlad Pwyl, daeth Thomas i’r DU i ddechrau ar ei yrfa. Yn ystod yr yrfa honno, mae wedi gweithio mewn bwytai a gwestai llwyddiannus, sydd wedi ennill llawer o wobrau, ledled y DU. Mae’r rhain yn cynnwys Auberge du Lac Restaurant gan Jean Christophe Novelli yn Swydd Hertford (1 Seren Michelin a 3 Rhuban AA); a swyddi rheoli yn y gwesty Lords of the Manor uchel ei barch yn y Cotswolds (1 Seren Michelin, 3 Rhuban AA a 4 Seren Goch); The Samling yn Windemere (1 Seren Michelin a 3 Rhuban AA) ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn fwy lleol yn Holm House ym Mhenarth, sefydliad nodedig iawn, ac fel Rheolwr Cyffredinol Park House, Caerdydd. Mae gan Thomas wybodaeth eang iawn am win, sydd wedi’i datblygu drwy gydol ei yrfa, ac adlewyrchir hyn yn rhestr winoedd a bar Y Dosbarth. Yn fwy na dim, mae gan Thomas angerdd mawr dros sicrhau gwasanaeth o’r safon uchaf i gwsmeriaid a thros ennyn hyn yn y rhai sy’n dechrau ar eu gyrfa, wrth iddynt weithio ochr yn ochr ag ef.

CCAF - Talent y Dyfodol

Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro enw da am hyfforddi talent y dyfodol ar gyfer y diwydiant lletygarwch ac arlwyo - gyda chyn fyfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn sefydliadau o’r safon uchaf - gan gynnwys gwestai 5 seren a bwytai Michelin ac AA ledled y rhanbarth, y DU a thu hwnt. Nod y Coleg yw gwneud pethau’n wahanol – sicrhau nad dim ond ennill cymwysterau i weithio yn y diwydiant mae’r myfyrwyr, ond y sgiliau a’r profiad mae cyflogwyr eu heisiau – gan eu helpu i fod yn gwbl unigryw yng nghanol y dorf a datblygu a llwyddo yn eu gyrfaoedd. Mae Y Dosbarth yn darparu lleoliad o’r safon uchaf i fyfyrwyr weithio, datblygu eu sgiliau a chael eu hysbrydoli. Ochr yn ochr â’n tîm proffesiynol, myfyrwyr lletygarwch ac arlwyo CCAF yw staff blaen tŷ a chegin Y Dosbarth o ddydd i ddydd - sef talent y rhanbarth hwn yn y dyfodol.venue for students to work, develop their skills and be inspired.

    Cogyddion Proffesiynol sy’n Ymweld

  • Hywel Jones

    Cogydd Gweithredol ym mwytai The Park a The Brasserie yng ngwesty Lucknam Park Hotel & Spa

    Dechreuodd Hywel ei yrfa gyda David Nichols yn The Royal Garden cyn symud i weithio fel Chef de Partie mewn dau sefydliad tair seren a 2 seren Michelin; Chez Nico at 90 a Marco Pierre White. Datblygodd ei sgiliau ymhellach fel Ail Gogydd iau yn Le Soufflé a chanddo seren Michelin. O’r fan honno aeth yn ei flaen i ennill ei seren Michelin gyntaf ym mwyty Foliage yng ngwesty’r Mandarin Oriental yn Hyde Park. Bu’n Brif Gogydd yn y fan honno am bum mlynedd, cyn ymuno â bwyty’r Pharmacy yn Notting Hill fel Cogydd Gweithredol. Yn 2004 daeth Hywel i weithio i Lucknam Park Hotel and Spa, ac enillodd seren Michelin yn 2006.
    Ar ôl ennill cystadleuaeth Cogydd Gwesty’r Flwyddyn yng Ngwobrau Hotel Catey yn 2007, mae Hywel wedi creu bwydlenni ardderchog ym mwyty The Park a chanddo seren Michelin, ac yn fwy diweddar yn The Brasserie, lleoliad sy’n cynnig profiad bwyta cyfoes. Lle bo hynny’n bosibl, mae Hywel yn defnyddio cynhwysion lleol, gan gynnwys perlysiau o ardd berlysiau helaeth Lucknam Park ei hun. Mae wedi meithrin perthynas bersonol â’i gyflenwyr lleol, gan sicrhau ei fod yn defnyddio cynhwysion o safon uchel sydd bob amser yn adlewyrchu’r tymor.
    Ym mis Tachwedd 2012, dan arweiniad Hywel, agorodd y gwesty Ysgol Goginio newydd sbon sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i’r rheini sy’n mwynhau coginio. Mae’r cyrsiau’n amrywiol iawn, o Fwyd Stryd India i Fwyd Prydeinig Gwych, Coginio Tymhorol, cyrsiau hanner diwrnod i blant a Noson gyda Hywel, lle bydd Hywel yn coginio ac yn siarad wrth baratoi bwydlen pum cwrs.

  • James Sommerin

    James Sommerin Penarth

    Mae’n fraint i Y Dosbarth gael croesawu James fel cogydd proffesiynol rheolaidd sy’n ymweld. Daw James i’r bwyty bob mis – gan gynnal dosbarth meistr a chymryd yr awenau yma fel cogydd gwadd. Ar ôl gyrfa’n gweithio mewn sefydliadau adnabyddus ledled y DU, dychwelodd James i Gymru, i fod yn brif gogydd yn ‘The Crown at Whitebrook’, gan ennill ei seren Michelin gyntaf a’i chadw am fwy na 5 mlynedd nes i ddrysau’r sefydliad gau. Mae’n wyneb cyfarwydd ar y teledu ac erbyn hyn James yw Cogydd / Perchennog yr enwog Restaurant James Sommerin ym Mhenarth. Dechreuodd James ar ei yrfa yn syth o’r ysgol ac mae ganddo angerdd dros ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Mae James yn aelod o banel cyflogwyr y Coleg ar gyfer y diwydiant Lletygarwch. Dyma fforwm o gyflogwyr i weithio gyda’r Coleg i ddylanwadu ar yr hyfforddiant a’r cyfleoedd ac i sicrhau bod y cymwysterau a’r sgiliau mae’r myfyrwyr yn eu dysgu’n gweddu i’r hyn mae cyflogwyr a’r diwydiant ei eisiau.

  • Larkin Cen

    Hokkei

    Mae’n bleser gan Y Dosbarth gael elwa o dalent Larkin – sy’n gweithio gyda’r Coleg gan gymryd yr awenau fel cogydd ac ysbrydoli’r myfyrwyr gyda’i goginio Asiaidd modern adnabyddus a’i agwedd entrepreneuraidd. Cyfreithiwr oedd Larkin ar un adeg a chyrhaeddodd rownd derfynol MasterChef ar y BBC yn 2013. Ers hynny, mae gyrfa Larkin fel cogydd ac entrepreneur wedi newid yn llwyr. Mae bellach yn Gyfarwyddwr sefydliad llwyddiannus Hokkei – ac mae Larkin yn arwain y ffordd gyda’i fath newydd ac arloesol o fwyd Asiaidd a gynhyrchir yn naturiol o ffynonellau cyfrifol. Mae Larkin hefyd yn aelod o banel cyflogwyr y Coleg ar gyfer y diwydiant Lletygarwch – gan ysbrydoli myfyrwyr a chefnogi talent gyflogadwy’r dyfodol ar gyfer y diwydiant.

  • Massimo Bishop-Scotti

    Zucchero Patisserie

    One of the top Patisserie Chefs in the UK, Massimo heads up the renowned UK Contemporary Cake Design service Zucchero Patisserie. Born and bred in Capri, Massimo’s love of good food started at a very early age – starting his first job at the age of 12 in the local patisserie shop. Leaving Italy at 17, Massimo came to London to train under the renowned Prof John Huber and started a career that saw him working in multiMichelin star restaurants and 5 star hotels including The Savoy, The Intercontinental and The Aubergine for Gordon Ramsey. Massimo has won multiple national Awards and designed cakes for Michelin restaurants, as well as bespoke cakes and desserts for Marks and Spencer and Harrods. Massimo visits The Classroom to share his expertise – running chocolate and patisserie masterclasses. This includes a range of exciting one-day masterclasses for our Cookery School where you can book to learn from the best for a day developing your skills including Macaron Making or Chocolate Work.

  • Anand George

    Purple Poppadom

    Mae’r cogydd aml-arobryn Anand George, o Kerala ar arfordir deheuol India, wedi dod yn un o gogyddion mwyaf enwog y DU ers ymddangos ym myd bwytai Cymru yn 2007. Yn enwog am ei ddull coginio Indiaidd Nouvelle yn ei fwyty enwog Purple Poppadom yng Nghaerdydd, mae’r Cogydd George yn bresenoldeb arloesol cyson yn y byd bwyd. Ceir enghraifft o hyd yn ei symudiad llwyddiannus i fwyd y stryd yn 2015.
    Disgrifia llyfr cyntaf y Cogydd George o’r enw ‘The 5,000 Mile Journey’ ei ddylanwadau coginiol sy’n rhychwantu ei yrfa o India i Gaerdydd drwy Lundain. Mae’n cynnwys dros 60 o ryseitiau ysbrydoledig. Yn enillydd Cogydd y Flwyddyn De Asia, llywiodd y Cogydd George ei sefydliad cyntaf yng Nghymru i gael ei gynnwys yng 100 Bwytai uchaf y DU yn y Gwobrau Bwytai Cenedlaethol. Mae’r bwyty hefyd wedi cyflawni cofnod cyntaf yn The Good Food Guide a’r Michelin Guide. Rhestrir Purple Poppadom eto yn y ddau yn 2016.
    Roedd Anand yn boblogaidd iawn yn Noson Allan Cogyddion 2010 i gefnogi Tŷ Hafan. Roedd dau westai yn cynnig £15,000 yr un i Anand goginio yn eu cartref. Codwyd £30,000 i Dŷ Hafan. Cafwyd y penawdau ‘Cyri Drytaf y Byd’ yn sgil ymddangos ar y newyddion cenedlaethol am chwech o’r gloch. Roedd y bwyty yng Nghaerdydd hefyd yn y rownd derfynol ar gyfer gwobrau Observer Food Monthly yn 2014 a 2015 am y Bwyty Gorau. Cafwyd adolygiad gwresog gan Jay Rayner ac argymhelliad gan Tom Parker Bowles.
    Peidiwch a cholli Cinio gan Anand George yn Y Dosbarth – 13 Hydref.

  • Roger Jones

    The Hallow yn Little Bedwyn

    Gyda thros 40 mlynedd yn y busnes lletygarwch, mae Roger yn Gogydd Seren Michelin uchel ei barch. Gyda’i wraig Sue, mae’n berchen ar y bwyty hynod nodedig sef The Harrow yn Little Bedwyn, Wiltshire. Mae wedi bod yn meddu ar Seren Michelin ers 11 mlynedd. Mae Roger wedi bod ynghlwm mewn hyfforddi nifer o golegau ac ysgolion yn y DU gan gynnwys Westminster ac mae’n gweithio â nifer o elusennau yng Nghymru gan gynnwys Tŷ Hafan, Chef’s Night Out, NSPCC Cymru, Blwyddyn Dysteb Ryan Jones er budd Milwyr Cymreig a anafwyd yn Afghanistan a Scope. Perchir y bwyty yn yr un modd am ei restr o 1,000 cist o winoedd. Mae wedi derbyn nifer o Wobrau Cenedlaethol a Byd-eang am ei restr gwinoedd. Mae’r rhain yn cynnwys The AA Wine List of The Year, The Decanter Wine List of The Year, World of Wine; The World’s Best Wine List Top Three Star and Judges Award, The Wine Spectator Best of Award of Excellence.

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle