The Classroom

HYWEL JONES yn Y Dosbarth- 26 o Fai 2016 (Dim llefydd ar ôl)

Bydd Hywel Jones, Cogydd Gweithredol ym mwytai gwesty Lucknam Park yn cymryd dros Y Dosbarth am un noson yn unig. Peidiwch a cholii'r cyfle i flasu bwydlen unigryw y Chef Seren Michelin yma.

Bydd Hywel Jones, Cogydd Gweithredol ym mwytai gwesty Lucknam Park yn cymryd dros Y Dosbarth am un noson yn unig. Peidiwch a cholii'r cyfle i flasu bwydlen unigryw y Chef Seren Michelin yma.

Dechreuodd Hywel ei yrfa gyda David Nichols yn The Royal Garden cyn symud i weithio fel Chef de Partie mewn dau sefydliad tair seren a 2 seren Michelin; Chez Nico at 90 a Marco Pierre White. Datblygodd ei sgiliau ymhellach fel Ail Gogydd iau yn Le Soufflé a chanddo seren Michelin. O’r fan honno aeth yn ei flaen i ennill ei seren Michelin gyntaf ym mwyty Foliage yng ngwesty’r Mandarin Oriental yn Hyde Park. Bu’n Brif Gogydd yn y fan honno am bum mlynedd, cyn ymuno â bwyty’r Pharmacy yn Notting Hill fel Cogydd Gweithredol. Yn 2004 daeth Hywel i weithio i Lucknam Park Hotel and Spa, ac enillodd seren Michelin yn 2006.
Ar ôl ennill cystadleuaeth Cogydd Gwesty’r Flwyddyn yng Ngwobrau Hotel Catey yn 2007, mae Hywel wedi creu bwydlenni ardderchog ym mwyty The Park a chanddo seren Michelin, ac yn fwy diweddar yn The Brasserie, lleoliad sy’n cynnig profiad bwyta cyfoes. Lle bo hynny’n bosibl, mae Hywel yn defnyddio cynhwysion lleol, gan gynnwys perlysiau o ardd berlysiau helaeth Lucknam Park ei hun. Mae wedi meithrin perthynas bersonol â’i gyflenwyr lleol, gan sicrhau ei fod yn defnyddio cynhwysion o safon uchel sydd bob amser yn adlewyrchu’r tymor.
Ym mis Tachwedd 2012, dan arweiniad Hywel, agorodd y gwesty Ysgol Goginio newydd sbon sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i’r rheini sy’n mwynhau coginio. Mae’r cyrsiau’n amrywiol iawn, o Fwyd Stryd India i Fwyd Prydeinig Gwych, Coginio Tymhorol, cyrsiau hanner diwrnod i blant a Noson gyda Hywel, lle bydd Hywel yn coginio ac yn siarad wrth baratoi bwydlen pum cwrs.

Mae’r digwyddiad yma yn llawn.

Darllenwch fwydlen Hywel Jones yn Y Dosbarth – 26th o Fai ac archebwch nawr.

Y Dosbarth

Mae Y Dosbarth yn fwyty unigryw sydd ar agor ar gyfer cinio, swper a digwyddiadau arbennig.

Cinio

Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn hanner dydd tan 2pm (yn ystod y tymor yn unig)

Swper

Dydd Iau i ddydd Sadwrn 6pm tan 9pm cyfle olaf i archebu (yn ystod y tymor yn unig)

Cadwch lle